for at udvide
kategorilisten.
Søgning på underkategorier- og emner:
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg.... Læs mere
Mae'r llyfr hwn yn astudiaeth o'r modd y mae'r gyfraith wedi cael ei phortreadu gan feirdd a llenorion Cymraeg, o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw. Adroddir hanes Cymru trwy gyfrwng delweddau o'r gyfraith mewn llenyddiaeth.
Cyfrol sy'n adrodd hanes un o sefydliadau addysg uwch pwysicaf Cymru, o'i ddechreuad yn 1884 fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, i'w dyddiau fel Prifysgol Cymru, Bangor, a'i ben-blwydd yn 125 oed yn 2009. Mae fersiwn Saesneg hefyd ar gael.
Dyma gyfrol arloesol sy'n craffu ar ddeunydd mewn tair iaith - y Gymraeg, y Saesneg a'r iaith Dsalagi (Cherokee) - a hynny wrth drafod gwahanol agweddau ar genhadaeth dau Fedyddiwr Cymreig a fu'n byw ac yn gweithio gyda'r genedl frodorol honno yn America.
Effeithiodd y Rhyfel Mawr ar fywydau unigolion a chymunedau yng Nghymru a gadael ei ôl ar nifer o agweddau o fywyd diwylliannol y wlad; mae’r gyfrol hon yn olrhain dylanwad maleisus y gyflafan ar Gymru drwy’r ganrif a ddilynodd.
Ceir yn y gyfrol hon, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig yn y diwylliant Cymraeg. Dehonglir amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?'
Cyfrol sy'n cyflwyno hanes y ffisegydd Evan James Williams, un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed. Bu'n gweithio gyda ffisegwyr byd-enwog, rhai yn enillwyr gwobr Nobel, ac ymysg ei lwyddiannau chwaraeodd ran allweddol yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd.
Dyma lyfr sy'n gosod un o gestyll mwyaf pwysig ond lleiaf adnabyddus Cymru yn ol ym myw hanes Cymru'r Oesoedd Canol.
Cyfrol am hanes Cymry America yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg.